Taliadau
Canslo
Amnewidiadau
Canslo’r digwyddiad
Er ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein digwyddiadau'n mynd rhagddynt yn ôl y bwriad, oherwydd yr hinsawdd bresennol byddem yn cynghori'n gryf bod cynadleddwyr sy'n teithio i'n digwyddiadau yn archebu llety y gellir ei ganslo am ddim a/neu drenau gyda thocynnau hyblyg, rhag ofn i'r digwyddiad gael ei ganslo neu ei ohirio.
Mae Freshwater UK yn cadw'r hawl i ganslo unrhyw ddigwyddiad. Ein nod yw rhoi cymaint o rybudd â phosibl ymlaen llaw. Bydd y ffi gofrestru lawn yn cael ei had-dalu oni ellir trefnu trosglwyddiad sy'n gyfleus i'r ddwy ochr o fewn cyfnod o 12 mis. Os bydd Freshwater UK yn gohirio digwyddiad am unrhyw reswm ac nad yw'r cynrychiolydd yn gallu bod yn bresennol ar y dyddiad newydd, byddwch yn cael ad-daliad llawn am y ffi a dalwyd.
Ni fydd Freshwater UK yn ysgwyddo unrhyw atebolrwydd os bydd cynhadledd yn cael ei chanslo, ei haildrefnu neu ei gohirio oherwydd digwyddiad anfwriadol, Gweithred gan Dduw, digwyddiad na ragwelwyd neu unrhyw ddigwyddiad arall sy'n golygu bod cynnal y gynhadledd hon yn anymarferol, yn anghyfreithlon neu'n amhosibl. At ddibenion y cymal hwn, bydd digwyddiad annisgwyl yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: ryfel, tân, streic llafur, tywydd eithafol neu argyfwng arall.
Er bod siaradwyr a phynciau wedi'u cadarnhau adeg cyhoeddi, efallai y bydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth y trefnwyr yn golygu bod angen newid, addasu neu ganslo'r siaradwyr a/neu'r pynciau. O'r herwydd, mae Freshwater UK yn cadw'r hawl i addasu neu newid y siaradwyr a/neu'r pynciau a hysbysebwyd os oes angen, heb unrhyw atebolrwydd i chi o gwbl. Bydd unrhyw beth sy'n cael ei newid neu ei addasu yn cael ei ddiweddaru ar ein tudalen we cyn gynted â phosibl.
Llwyfan digwyddiadau
Mae gwefan Y Metro a Ni yn cael ei rheoli gan Freshwater, y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel 'Ni'. Wrth ddefnyddio ein gwefan, rydych chi'r defnyddiwr ('Chi') yn derbyn ein Telerau ac Amodau. Mae gwefan digwyddiad Y Metro a Ni yn cael ei chynnal at eich defnydd personol chi. Mae cael mynediad at y wefan hon a'i defnyddio yn golygu eich bod yn derbyn y Telerau ac Amodau hyn, sy'n dod i rym o'r dyddiad y'i defnyddir am y tro cyntaf.
Freshwater (FW) yw'r Rheolydd Data ar gyfer gwybodaeth a gyflwynir drwy wefan y digwyddiad, ynghyd ag unrhyw wybodaeth a rennir, ffotograffau a dynnwyd neu fideos a wnaed yn ystod y digwyddiad. Mae FW wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU).
Mae gan Freshwater Swyddog Diogelu Data y gellir cysylltu â hwy drwy anfon e-bost at haydn.evans@freshwater.co.uk
Hyperddolennu
Nid ydym yn gwrthwynebu i chi greu dolen uniongyrchol i'r wybodaeth sydd ar ein safle. Fodd bynnag, byddai'n well gennym pe na bai ein tudalennau'n cael eu llwytho i fframiau ar eich safle. Dylai tudalennau gwefan y digwyddiad lwytho i mewn i ffenestr gyfan y defnyddiwr. Nid ydym yn caniatáu i'n tudalennau gael eu llwytho i fframiau ar eich safle.
Cofrestru defnyddwyr
I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, mae'n ofynnol i chi gofrestru ar wefan y digwyddiad.
Pa wybodaeth ydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi?
Mae'r wybodaeth sydd ei hangen i'ch cofrestru ar gyfer y digwyddiad yn cynnwys eich enw, eich rôl, eich cwmni, eich cyfeiriad e-bost, eich lleoliad, eich gofynion dietegol a mynediad, eich rhif cyswllt, a sut rydych chi'n bwriadu teithio i'r gynhadledd. Dim ond er mwyn cysylltu â chi am y digwyddiad rydych chi wedi cofrestru ar ei gyfer y byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth hon.
Yr eithriad i hyn yw os ydych wedi dewis yr hoffech i ni gysylltu â chi os bydd digwyddiad yn 2027. Os felly, byddwn yn cysylltu â chi os bydd digwyddiad yn 2027.
Os byddwch yn defnyddio'r arweinlyfr i randdeiliaid, bydd angen i chi roi eich manylion. Defnyddir y wybodaeth hon i fonitro pwy sy'n defnyddio'r arweinlyfr i randdeiliaid.
Sut bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio?
Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth.
Ar ôl cofrestru, byddwch yn cael negeseuon atgoffa am y digwyddiad a ffurflen werthuso ar ôl y digwyddiad drwy e-bost. Os ydych chi'n dymuno optio allan o'r negeseuon e-bost hyn, cysylltwch â MetroandUs@freshwater.co.uk.
Pwy sy'n derbyn eich gwybodaeth?
Mae FW wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau unigolion yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU). Mae Freshwater yn brosesydd data ar gyfer data sy'n cael ei gasglu drwy wefan y digwyddiad. Rydym hefyd yn defnyddio proseswyr trydydd parti ac, o'r herwydd, efallai y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â nhw. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei phrosesu yn unol â pholisi preifatrwydd y trydydd partïon. Dyma'r proseswyr trydydd parti rydym yn eu defnyddio:
Cwcis
Mae gwefan Eventscase yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth ddienw am ymddygiad ymwelwyr.
Darnau bach o wybodaeth yw cwcis sy'n cael eu storio ar eich cyfrifiadur gan wefannau. Mae'r rhain fel arfer yn cael eu defnyddio gan wefannau i gofio dewisiadau, neu i ddarparu hysbysebion mwy perthnasol ac wedi'u targedu'n well ar sail ymddygiad ar-lein.
Pan fydd rhywun yn ymweld â gwefan y digwyddiad, rydym yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, Google Analytics, i gasglu gwybodaeth safonol am ymweliadau â’r safle drwy gwcis. Rydym yn gwneud hyn i ganfod patrymau ymddygiad cyffredinol, fel nifer yr ymwelwyr â gwahanol rannau o'r safle. Dim ond mewn ffordd nad yw’n datgelu pwy yw pobl y bydd yr wybodaeth hon yn cael ei phrosesu. Nid ydym yn gwneud, ac nid ydym yn caniatáu i Google wneud, unrhyw ymgais i ganfod pwy yw'r rhai sy'n ymweld â'n gwefan.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a pharchu eich preifatrwydd
Fel y nodwyd, rydym yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i reoli ein gwasanaethau a'n gwefan, sydd hefyd yn gwella eich profiad pori. Mae rhagor o wybodaeth am y cwcis hyn wedi'i rhestru isod, ond mae parhau i ddefnyddio'r safle y tu hwnt i'r pwynt hwn yn golygu eich bod yn derbyn cwcis gan:
Darllenwch ein datganiad cwcis i gael rhagor o wybodaeth.
Diogelu rhag firysau
Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ar bob cam o'r broses gynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i chi redeg rhaglen wrth-firws ar yr holl ddeunydd a lwythir i lawr o'r Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am golli, difrodi neu amharu ar eich data, na’ch system gyfrifiadurol wrth ddefnyddio deunydd o wefannau.
Hysbysiad ffilmio a ffotograffiaeth
Drwy fynychu'r gynhadledd, rydych chi'n cydsynio i ffotograffiaeth, recordiadau sain, recordiadau fideo, a'u rhyddhau, eu cyhoeddi, eu harddangos neu eu hatgynhyrchu ar er mwyn eu defnyddio ar gyfer newyddion, gweddarllediadau, dibenion hyrwyddo, hysbysebu, cynnwys ar wefannau, cyfryngau cymdeithasol, neu unrhyw ddiben arall gan y Grŵp Llywio. Gellir defnyddio delweddau, ffotograffau a/neu fideos i hyrwyddo digwyddiadau yn y dyfodol. Os nad ydych chi'n dymuno cael eich cynnwys yn y deunydd, rhowch wybod i dîm y gynhadledd drwy anfon e-bost at MetroandUs@freshwater.co.uk.
Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn i'r digwyddiad ddechrau os oes gennych chi broblemau neu bryderon ynghylch hyn, er mwyn i ni allu cymryd camau priodol i sicrhau nad ydych chi'n cael eich cynnwys.
Ymwrthodiad
Darperir gwybodaeth ar wefan y digwyddiad (neu wybodaeth trydydd parti) 'fel y mae' heb unrhyw gynrychiolaeth nac ardystiad a heb warant o unrhyw fath, boed hynny'n ddatganedig neu ymhlyg. Nid ydym yn gwarantu y bydd y swyddogaethau sydd wedi'u cynnwys yn y deunydd ar y safle hwn yn ddi-dor na heb wallau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, nac y bydd y safle hwn neu'r gweinydd sy'n sicrhau ei fod ar gael yn rhydd o firysau nac yn cynrychioli swyddogaeth, cywirdeb a dibynadwyedd llawn y deunyddiau.
Bydd y Telerau ac Amodau hyn yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth lwyr llysoedd Cymru a Lloegr.
__________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________
Hygyrchedd Cwcis Polisi preifatrwydd gwefan Telerau ac amodau
__________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________
Mae Grŵp Llywio Y Metro a Ni yn cynnwys