Tocyn wedi’i ariannu’n llawnar gael ar gyfer sefydliadau sector cyhoeddus, trydydd sector ac elusennol
Mae cofrestru yn cynnwys mynediad i'r gynhadledd undydd, lluniaeth, cinio a derbyniad diodydd ar ôl y digwyddiad.
Mae gwaith peirianneg wedi’i drefnu yn Nhwnnel Hafren a fydd yn effeithio ar deithio ar drenau rhwng Lloegr a De Cymru o ddydd Sadwrn 23 Mai i ddydd Llun 8 Mehefin. Os ydych chi’n teithio o’r tu allan i Gymru lle byddai eich taith fel arfer yn pasio drwy Dwnnel Hafren, gall eich taith gael ei hoedi ac efallai y bydd angen ichi ddewis llwybr arall neu drafnidiaeth wahanol yn hytrach, mae mwy o wybodaeth ac opsiynau teithio eraill i’w gweld yma: https://www.nationalrail.co.uk/engineering-works/severn-tunnel-23-may-20260523
Gan adeiladu ar fomentwm digwyddiad 'Y Metro a Fi' yn 2018, mae partneriaeth o randdeiliaid rhanbarthol yn falch o gyflwyno Y Metro a Ni, cynhadledd ac arddangosfa newydd bwrpasol ar gyfer trafnidiaeth, seilwaith, adfywio a datblygiad economaidd yn Ne Cymru. Er mwyn archwilio'r meddylfryd u tu ôl i Y Metro a Ni, cymerwch gipolwg ar y blog myfyriol hwn gan aelod o'r Grŵp Llywio, yr Athro Mark Barry o Brifysgol Caerdydd.
Dyddiad: Dydd Iau 4 Mehefin 2026
Amser: 09:00-18:30
Lleoliad: Y Depot, Caerdydd, CF10 5DF
what3words: ///rounds.human.hopes
Wedi'i leoli yn Y DEPOT, mae Y Metro a Ni yn cynnig gofod deinamig ar gyfer cydweithrediad a thrafodaeth ar sut y gall Metro De Cymru annog cysylltedd, adfywio a thwf economaidd cynaliadwy ar draws y rhanbarth.
Mae Y Metro a Ni wedi'i greu er mwyn:
Bydd y gynhadledd yn edrych y tu hwnt i drafnidiaeth yn unig, gan ystyried sut mae seilwaith yn dylanwadu ar dai, cyflogaeth, y stryd fawr a llesiant cymdeithasol ehangach.
Ochr yn ochr â'r rhaglen gynhadledd, bydd arddangosfa wedi'i churadu gyda sefydliadau sy'n gweithio ar draws y sector trafnidiaeth, seilwaith ac adfywio yn bresennol.
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â dod yn arddangoswr ar gael yma.
Drwy gydol y diwrnod, bydd gan gynrychiolwyr gyfleoedd pwrpasol i gysylltu a rhwydweithio. Byddwn hefyd yn cynnal derbyniad diodydd anffurfiol ar ôl y gynhadledd, er mwyn meithrin sgyrsiau ystyrlon a phartneriaethau newydd.
Mae Y Metro a Ni wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawgar i bawb sy'n mynychu ein digwyddiad yn Y DEPOT. Mae'r lleoliad yn cynnig mynediad di-ris a chyfleusterau hygyrch, a bydd ein tîm wrth law drwy gydol y dydd i gefnogi unrhyw anghenion ychwanegol.
Ein nod yw sicrhau bod pob ymwelydd yn teimlo'n gyfforddus ac yn rhan o'r digwyddiad. Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd penodol, rhowch wybod i ni ymlaen llaw fel y gallwn drefnu'n briodol. Bydd arwyddion clir, ardaloedd tawel, a staff cymwys ar gael i helpu i wneud eich profiad yn un mor ddidrafferth â phosibl.
Rydym wedi ymrwymo i leihau effaith amgylcheddol Y Metro a Ni ac yn annog pob mynychwr i ddewis opsiynau teithio cynaliadwy lle bo modd. Mae'r DEPOT wedi'i leoli'n agos at brif gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus Caerdydd, gan ei gwneud hi'n hawdd cyrraedd ar drên, bws, neu ar droed.
5-10 munud i ffwrdd yn unig ar droed yw gorsaf Caerdydd Canolog. Ewch allan o'r orsaf a cherddwch ar hyd Heol Dumballs, gan basio adeilad Coleg Caerdydd a'r Fro. Yna, trowch i mewn i Stad Ddiwydiannol Curran ar y dde, lle gwelwch arwyddion clir ar gyfer Y DEPOT.
Drwy ddewis ffyrdd gwyrddach o deithio, rydych yn ein helpu ni i greu digwyddiad mwy blaengar a chyfrifol.
Mae Y Metro a Ni ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn sut mae Metro De Cymru yn gallu cefnogi cymunedau, busnesau a'r economi ranbarthol ehangach. Mae hyn yn cynnwys llunwyr polisi, datblygwyr, gweithwyr proffesiynol yn y sector trafnidiaeth, awdurdodau lleol, buddsoddwyr, academyddion ac arweinwyr cymunedol.
Mae rhaglen fanwl a rhestr o siaradwyr sydd wedi'u cadarnhau ar gael yma.
Mae cofrestru'n agor am 08:30, gyda'r digwyddiad yn dechrau'n brydlon am 09:00.
Dylech anelu at gyrraedd am 08:30 i alluogi digon o amser i gasglu eich bathodyn enw, cael gafael ar luniaeth, a chymryd eich sedd cyn ein bod yn dechrau.
Cyfeiriad y lleoliad:
Y DEPOT
Uned 8, Heol Curran
Caerdydd CF10 5DF
Mae modd cerdded i'r lleoliad o ganol dinas Caerdydd.
Teithio ar Drên
Mae gorsaf drenau Caerdydd Canolog tua 10 munud i ffwrdd ar droed o'r DEPOT.
Mae gan orsaf Caerdydd Canolog wasanaethau uniongyrchol i ddinasoedd mawr y DU, yn cynnwys Llundain, Bryste, Birmingham, Manceinion ac Abertawe.
Am amseroedd trenau a gwybodaeth am docynnau, ewch i National Rail.
Teithio ar Fws
Mae Bws Caerdydd yn gweithredu gwasanaethau rheolaidd i ganol y ddinas.
Mae'r arosfannau agosaf o gwmpas Gorsaf Caerdydd Canolog a Heol Dumballs, ac maent yn agos ar droed i'r lleoliad.
Teithio ar y Ffordd
O'r Dwyrain (M4):
O'r Gorllewin (M4):
Parcio
Mae ychydig o le parcio ar gael ar safle'r DEPOT. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'r meysydd parcio canol y ddinas gerllaw, fel Gorsaf Central Quay Caerdydd, sydd rhyw 5 munud i ffwrdd ar droed o'r lleoliad. Caniatewch amser ychwanegol ar gyfer parcio yn ystod cyfnodau prysur.
Nac oes - Digwyddiad wyneb yn wyneb yn unig yw Y Metro a Ni.
__________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________
Hygyrchedd Cwcis Polisi preifatrwydd gwefan Telerau ac amodau
__________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________________
Mae Grŵp Llywio Y Metro a Ni yn cynnwys